Adroddiad newydd yn gofnod pwysig o gyflwr bywyd gwyllt yng Ngwent

Adroddiad newydd yn gofnod pwysig o gyflwr bywyd gwyllt yng Ngwent

Andy Karran

Mae adroddiad newydd pwysig a gyhoeddwyd ddydd Mercher 21 Gorffennaf, wedi edrych ar rychwant y bywyd gwyllt yng Ngwent, cofnodi’r llwyddiannau ecolegol a dynodi’r rhywogaethau hynny sydd mewn mwyaf o risg. Nod adroddiad Cyflwr Natur Gwent yw llywio Cynlluniau Gweithredu Adferiad Natur Lleol a gwaith cadwraeth arall sydd ar y gweill. Gobeithir y caiff yr wybodaeth o fewn yr adroddiad ei defnyddio i gyfeirio cofnodi a monitro pellach, yn ogystal â gweithredu cadwraeth yn y dyfodol.

Mae’r adroddiad, a gyllidir gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru, yn cynnwys y pump Awdurdod Lleol yn ardal Gwent: Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen, gan edrych ar y rhywogaethau o fewn y rhanbarth. Mae’r bartneriaeth a fu’n gweithio hefyd wedi cynnwys Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, Cyfoeth Naturiol Cymru, Canofan Cofnodion Bioamrywiaeth De Ddwyrain Cymru a Buglife. Nod y prosiect yw gwrthdroi dirywiad mewn bioamrywiaeth a cynyddu cydnerthedd natur ar draws Gwent.

Gan weithio gyda Phartneriaethau Natur Lleol, dewisiodd Prosiect Gwent Gydnerth 100 rhywogaeth i gynrychioli’r rhychwant o fywyd gwyllt sydd yn y rhanbarth, y mae eu straeon yn ysbrydoli, yn codi consyrn a hyd yn oed yn ein gwneud yn chwilfrydig. Drwy astudio poblogaethau a thueddiadau rhywogaethau, caiff newidiadau a bygythiadau yn yr ecosystemau ehangach sy’n eu cefnogi  eu datgelu. Mewn geiriau syml, mae’n rhoi gwiriad iechyd i ni o natur.

Dywedodd partneriaeth Gwent Gydnerth: “Mae’r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth werthfawr iawn fydd yn rhoi llinell sylfaen ar gyfer asesu effeithlonrwydd gwaith cadwraeth. Mae’n amlwg fod straeon gwych o lwyddiant. Mae adar y bwn yn ôl yn bridio ar Wastadeddau Gwent am y tro cyntaf mewn 200 mlynedd, er enghraifft, ac mae cytrefi o ystlumod pedol mwyaf a lleiaf yn ffynnu. Gwaetha’r modd, mae tystiolaeth hefyd yn dangos fod rhai rhywogaethau yn dirywio, yn cynnwys y gylfinir sy’n diflannu’n gyflym o’r ardal.

Ar gyfer llawer o’r 100 rhywogaeth a gynhwysir, hwn yw’r tro cyntaf y cofnodwyd tueddiadau rhanbarthol. Mae monitro a chasglu data am fywyd gwyllt yn eithriadol bwysig a bydd yn ein helpu i’n llywio yn y dyfodol. Mae adroddiad Cyflwr Natur Gwent yn dangos yr angen am godi ymwybyddiaeth addysg, yn ogystal â newid polisi a gweithredu.”

I gael mwy o wybodaeth am adroddiad Cyflwr Natur: blaenau-gwent.gov.uk/en/resident/countryside/resilient-greater-gwent/

Greater Gwent State of Nature Report