Mae Cystadleuaeth Dylunio Logo'r Gwrws Gwyrdd ar Agor! | Green Gurus Logo Design Competition is Open!

Mae Cystadleuaeth Dylunio Logo'r Gwrws Gwyrdd ar Agor! | Green Gurus Logo Design Competition is Open!

Newyddion cyffrous i unrhyw un rhwng 9 a 12 oed
Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent yn lansio cwis ar-lein newydd i ysgolion am fioamrywiaeth a newid hinsawdd o'r enw Gwrws Gwyrdd ac mae angen logo!

Exciting news for anyone aged 9 – 12
Gwent Wildlife Trust is launching a new online quiz for schools about biodiversity and climate change called Green Gurus and it needs a logo!

Dyma eich cyfle chi. Dyluniwch gymeriad neu avatar ar gyfer Gwrws Gwyrdd a bydd yn cael ei ddefnyddio ar ein holl ddeunyddiau a'n cyhoeddusrwydd ar gyfer y cwis.

Bydd Tîm Addysg Ymddiriedolaeth Natur Gwent yn beirniadu eich cynigion ynghyd â'r dyluniwr creadigol Jones Design Create, a fydd yn mynd ati i greu logo allan o'r dyluniad buddugol.

Gallwch wneud llun ac yna ei sganio a'i uwchlwytho, gallwch wneud llun cyfrifiadur neu gallwch wneud ffigur 3D a thynnu ffotograff ohono.  Cofiwch fod angen i ni greu logo i fynd ar lawer o wahanol bethau sydd o wahanol faint, felly dyluniadau syml, clir, bachog fydd yn gweithio orau.

Y dyddiad cau ar gyfer eich cynigion yw dydd Mercher 6 Ionawr 2021.

Ewch ati i greu!

--------

This is where you come in. Design a character or avatar for Green Gurus and see it used on all our quiz material and publicity. 

Gwent Wildlife Trust’s Education Team will be judging your entries along with creative design gurus Jones Design Create, who will then create a logo out of the winning design.
 
It could be a drawing that you scan in and upload, a computer drawing or a 3D figure that you make and photograph.  Just remember that we need to create a logo to go on lots of different things in a range of sizes, so simple, clear, eye-catching designs will work best.
 
Closing date for entries is Wednesday 6th January 2021. 
Get creating Gurus!

Sut i Gystadlu | How to Enter

Gofynnwch i'ch rhiant neu warcheidwad anfon eich cynnig at magormarsh@gwentwildlife.org, gan gynnwys eich enw, oedran, cyfeiriad, ysgol a manylion cyswllt eich rhiant neu warcheidwad.

Ask your parent or guardian to send your entry to magormarsh@gwentwildlife.org, including your name, age, address, school and contact details for your parent or guardian.

Am fwy o wybodaeth ewch i'n tudalen | For more information visit our Green Gurus webpage

Sut i Gystadlu | Terms and Conditions

1. Rhaid i chi gael caniatâd eich rhiant neu warcheidwad i gystadlu.

2. Rhaid i chi fod rhwng 9 a 12 oed

3. Rhaid anfon eich cynnig erbyn 5pm ddydd Mercher 6 Ionawr 2021. Ni fydd cynigion a dderbynnir ar ôl yr amser hwn yn cael eu cynnwys

4. Rhaid i chi fyw yng Ngwent

5. Rhaid e-bostio cynigion at magormarsh@gwentwildlife.org a dylent gael eu hanfon gan eich rhiant neu warcheidwad

6. Rhaid i'ch cynnig gynnwys eich enw, oedran, cyfeiriad, ysgol a manylion cyswllt eich rhiant neu warcheidwad

7. Un cynnig yr un

8. Yn agored i aelodau Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent a rhai nad ydynt yn aelodau

9. Drwy gyflwyno eich cymeriad, rydych chi a'ch gwarcheidwad yn cytuno i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent ddefnyddio'r logo a grëwyd ar gyfer pob elfen o'n cwis Gwrws Gwyrdd yn ogystal ag mewn arddangosfeydd, cyhoeddiadau neu ddeunyddiau hyrwyddo, nid er budd masnachol.

10. Mae penderfyniad y Beirniaid yn derfynol.

11. Ni allwn roi gwybod i bob cystadleuydd am y penderfyniad terfynol.

12. Cyhoeddir yr enillwyr erbyn diwedd Ionawr 2021 ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

-------

1. You must have the permission of your parent or guardian to enter.

2. You must be aged between 9 and 12 years

3. Entries must be in by 5pm on Wednesday 6th January 2021. Entries received after this time will not be included

4. You must live in Gwent

5. Entries must be emailed to magormarsh@gwentwildlife.org and must be submitted by your parent or guardian

6. Your entry must include your name, age, address, school and contact details for your parent or guardian

7. One entry per person

8. Open to GWT members and non-members alike

9. By submitting your character entry, you and your guardian agree to Gwent Wildlife Trust using the subsequent created logo for all elements of our Green Gurus quiz as well as in exhibitions, publications or promotional uses, not for commercial gain.

10. The Judges’ decision is final.

11. We are unable to notify each entrant of the final decision.

12. The winners will be announced by the end of January 2021 on our social media channels.