3, 2, 1…Plast OFF!

3, 2, 1…Plast OFF!

Rob Magee

Diolch i bawb a fynychodd Plast OFF! 2022, y digwyddiad casglu sbwriel yng Gwarchodfa Natur Cwm Canolg yng Nglyn Ebwy ddydd Sadwrn 15 Ionawr.

Daeth 14 o bobl draw am y diwrnod. Roedd cymysgedd o oedrannau gyda'r ieuengaf yn 2 fis oed.

Gyda'n gilydd, casglwyd 25 bag o sbwriel yn cynnwys 29.5kg i’w ailgylchu a 44.5kg o wastraff cyffredinol. Yn ogystal, casglwyd cadair, bwced clorin, llinell olchi, clwb golff, baneri pêl-droed, esgidiau pêl-droed, pêl-droed, tedi a Gromit, ond nid Wallace.

Roedd y gwaith o gasglu sbwriel yn rhan o Sefyll Dros Natur Cymru, prosiect cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc rhwng 9 a 24 oed, yn cynnwys holl Ymddiriedolaethau Natur Cymru.

Roedd yn dipyn o gystadleuaeth rhwng yr ymddiriedolaethau, a daethom yn ail!

Dyma'r canlyniad terfynol:

1af Gogledd Cymru - 160.5kg, 2il Gwent - 74kg, 3ydd De a Gorllewin Cymru - 61.2kg, 4ydd Sir Faesyfed - 35kg, 5ed Maldwyn - 8kg

Mae gan Ymddiriedolaeth Natur Gwent Grŵp Ieuenctid Newydd Sefyll Dros Natur Cymru yn y Cymoedd ar gyfer pobl sy'n poeni am newid yn yr hinsawdd ac sydd am weithredu. Mae'r grŵp yn cael ei arwain gan ei aelodau felly cewch gyfle i benderfynu pa gamau a gweithgareddau sy'n digwydd. I gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech ymuno, ewch i www.gwentwildlife.org/StandForNatureWales

 

Stand for Nature Wales colour logo