Peillwyr Perffaith

Red-tailed bumblebee

Red-tailed bumblebee ©Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Pryfed Peillio Perffaith

Pryfed Peillio Perffaith

Oeddech chi'n gwybod bod angen ein help ni ar bryfed peillio? Byddwn yn dangos i chi pa mor anhygoel yw pryfed peillio a beth allwch chi ei wneud i'w helpu. Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau i'ch helpu chi i fod yn gyfeillgar i wenyn a gwneud popeth yn well i löynnod byw.

Pan rydyn ni'n dweud pryfed peillio, dydyn ni ddim yn golygu gwenyn yn unig! Mae cacwn, gwenyn mêl, gwenyn unigol, gwenyn meirch, pryfed, gwyfynod, glöynnod byw a chwilod i gyd yn bryfed peillio.

Mae pryfed peillio’n hanfodol i fywyd ar y ddaear - maen nhw'n peillio mwy nag 80% o blanhigion sy’n blodeuo. Mae hynny'n golygu eu bod yn helpu i greu a chynnal cynefinoedd ac ecosystemau y mae anifeiliaid eraill yn dibynnu arnynt am fwyd a chysgod, gan gynnwys ni!

Mae 1 o bob 3 llond ceg o'n bwyd angen eu peillio gan bryfed

Mae pryfed peillio’n cyfrannu £690 miliwn at yr economi yn flynyddol. Pe baem yn ceisio efelychu sut mae pryfed yn peillio ein cnydau, byddai'n costio tua £1.8 biliwn bob blwyddyn

Mae 50% o rywogaethau o gacwn yn dirywio; mae 41% o rywogaethau o wyfynod a 57% o löynnod byw wedi dirywio ers canol y 1970au.

Pam felly? Wel, mae nifer o ffactorau ar waith, ond yn bennaf, colli a darnio, neu chwalu, cynefinoedd yw'r prif reswm. Mae hyn yn golygu bod llai o lefydd lle gall pryfed peillio oroesi, gyda llai o blanhigion llawn neithdar i fwydo arnynt. 

Rydyn ni wedi colli 97% o'n dolydd blodau gwyllt ers y 1930au

Common blue butterfly

Chris Lawrence

Cofnodi gweld pryfed peillio

Helpwch i fapio pryfed peillio Gwent drwy gyflwyno'ch cofnodion am eu gweld i SEWBReC (Canolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De Ddwyrain Cymru)

Dechrau cofnodi nawr
A Six Spot burnet pictured on the Gwent Levels

Neil Aldridge

Gweithredu dros Bryfed

Bydd ein canllawiau yn eich helpu i ddysgu am bryfed a sut i helpu yn yr ysgol neu gartref.

Cofrestrwch ar gyfer eich canllaw AM DDIM

Gwyliwch un o'n fideos

Rydyn ni wedi creu tri fideo i arddangos pwysigrwydd pryfed peillio a sut gallwch chi helpu yn eich ysgol a'ch grŵp cymunedol neu sut gallwch chi ddylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn eich ardal chi.

Sut i helpu yn yr ysgol

Sut i helpu yn yr Grŵp cymunedol

Rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn eich ardal chi

Llochesi i löynnod byw

Fe wnaethom osod rhai llochesi i löynnod byw yn eu lle fel rhan o'r prosiect. Mae enghreifftiau ohonynt i'w gweld ym Mharc Bryn Bach yn Nhredegar a Pharc Mardy yn y Fenni. Beth am fynd i edrych?

Butterfly Shelter at Parc Bryn Bach

Butterfly Shelter at Parc Bryn Bach by Robert Magee

Butterfly Shelter at Mardy Park

Butterfly Shelter at Mardy Park by Robert Magee

Gwent Fwyaf Gydnerth

Caiff y prosiect ei gyllido drwy Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru drwy raglen gwaith 'Gwent Fwyaf Gydnerth'. Mae'r rhaglen yn parhau tan haf 2022 ac mae'n gweithio i sicrhau De Ddwyrain Cymru lle mae adferiad mewn natur a chymunedau cynaliadwy yn gwerthfawrogi eu tirluniau a bywyd gwyllt ac yn cymryd rhan ar gyfer eu hiechyd a'u llesiant eu hunain.

RGG and WG logos