At Youth Summit 2023 by Robert Magee
Sefyll Dros Natur Cymru
Ydych chi rhwng 9 a 24 oed ac yn hoffi byd natur?
Hoffech chi ddysgu mwy am atebion sy'n seiliedig ar natur i frwydro yn erbyn newid hinsawdd a helpu bywyd gwyllt yn eich cymuned?
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gwent, ynghyd â’r pum Ymddiriedolaeth Natur arall yng Nghymru, yn gweithio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc o bob cefndir sydd eisiau gweithredu dros fyd natur yn eu hardal leol mewn ymgais i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Sut i gymryd rhan
Mae gan Sefyll dros Natur Cymru ddau grŵp ieuenctid yng Ngwent (edrychwch ar y map isod). Rydyn ni’n cyfarfod bob yn ail ddydd Mawrth rhwng 18:00 a 20:00.
Mae'r cyfarfodydd yn cynnwys gweithgareddau natur dan do ac yn yr awyr agored, ymgyrchoedd, sgyrsiau addysgol a meithrin sgiliau cynaliadwy.
Yn ystod gwyliau ysgol, mae’r sesiynau'n cynnwys cyrsiau diwrnod cyfan, gwersylla a theithiau maes.
Cliciwch ar un o'n blogiau ffotograffau ni isod am fwy o wybodaeth ac ysbrydoliaeth.
Fe allwn ni i gyd wneud gwahaniaeth
Gyda’n gilydd gallwn frwydro yn erbyn effeithiau cynhesu byd-eang drwy ddefnyddio atebion sy’n seiliedig ar natur fel creu dolydd blodau gwyllt, plannu coed, sefydlu toeau gwyrdd a gerddi dŵr glaw a gwneud lle i fyd natur.
Cyllid
Mae’r prosiect yn cael ei gyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae mwy o wybodaeth am brosiectau Sefyll dros Natur Cymru sy'n cael eu cynnal mewn rhannau eraill o Gymru ar gael drwy edrych ar dudalen Ymddiriedolaethau Natur Cymru yma