Broffiliau o'r Dirwedd

Drone photos Bridewell R Waller 2018 2 - Headline Hero

R Waller

Proffiliau o'r dirwedd de-ddwyrain Cymru

Click here to view this page in English

Cyflwyniad i Broffiliau o'r Dirwedd

Ym mis Ebrill 2019, daeth partneriaid a rhanddeiliaid sy’n gweithio ar lesiant a rheoli adnoddau naturiol yn Ne-ddwyrain Cymru ynghyd i ffurfio set o Baneli Tirwedd. Trwy weithredu ar raddfa tirwedd aeth y grwpiau hyn ati i greu cyfres o Broffiliau Tirwedd fel rhan o'r gwaith i gyd-gynhyrchu Datganiad Ardal De-ddwyrain Cymru. Defnyddiodd pob Panel Tirwedd y dystiolaeth leol a chenedlaethol orau oedd ar gael ar y pryd i ddiffinio cymeriad ac arwyddocâd eu tirwedd. Buont hefyd yn ystyried y prif ffactorau sy’n effeithio ar ecosystemau a rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol, yn ogystal â lle mae angen inni feithrin gwytnwch a pham.

Defnyddiwyd y Proffiliau Tirwedd fel y sylfaen dystiolaeth ar gyfer cam nesaf datblygiad Datganiad Ardal De-ddwyrain Cymru, pan ddaeth rhanddeiliaid ynghyd a nodi camau gweithredu penodol i’w cyflawni o dan bedair thema strategol: Gwent yn Barod ar gyfer yr Hinsawdd, Cysylltu Ein Tirweddau, Iach Heini Cysylltiedig a Ffyrdd o Weithio. Yr olaf o’r rhain yw’r thema strategol sy’n sail i’r lleill, sy'n canolbwyntio ar wreiddio'r cydweithio ac integreiddio ystyrlon hynny sydd wrth wraidd gweithio trwy broffiliau tirwedd.

Cydnabyddir nad oedd y dull o weithredu ar raddfa tirwedd a’r proffiliau a gyd-gynhyrchwyd ar y pryd yn berffaith. Fodd bynnag, cynigiodd y broses honno brofiad gwerthfawr a fydd yn cael ei ddefnyddio i lywio a gwella'r fersiwn nesaf o Ddatganiad Ardal De-ddwyrain Cymru a'r fersiynau eraill sydd i ddod yn y dyfodol. Mae'r proffiliau tirwedd cyntaf yn cynnig llinell sylfaen y gellir eu hadeiladu arnynt a'u gwella ar y cyd yn y dyfodol.

Rhagair i Broffiliau o'r Dirwedd

Datganiad ardal de-ddwyrain Cymru

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ein helpu i gyflawni'r her o sicrhau y caiff ein hadnoddau naturiol eu cynnal, eu defnyddio a'u gwella'n gynaliadwy mewn modd sy'n diwallu anghenion cenedlaethau'r presennol a chenedlaethau'r dyfodol.

Wrth graidd y ddeddf hon mae'r angen i fabwysiadu dull newydd, mwy integredig o reoli ein hadnoddau naturiol i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor. Mae'r ddeddf yn darparu fframwaith ailadroddol sy'n sicrhau y bydd y gwaith o reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy yn ystyriaeth graidd wrth wneud penderfyniadau. 

Bwriad y ddeddf yw sicrhau bod y Polisi Cenedlaethol ar Adnoddau Naturiol , sef polisi statudol, yn cael effaith gadarnhaol ar y raddfa ddaearyddol fwyaf priodol. Dyna pam mae angen i Cyfoeth Naturiol Cymru baratoi, cyhoeddi ac adolygu datganiadau ardal. Rhaid cynnwys pobl ardal o Gymru mewn o leiaf un datganiad ardal (mae cyfanswm o saith; am fwy o wybodaeth ar ddatganiadau ardal eraill, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru).

Bydd y datganiadau ardal yn ystyried y dystiolaeth o'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol ac yn nodi'r blaenoriaethau, y risgiau a'r cyfleoedd er mwyn rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ar y lefel leol.

Cydweithio â phartneriaid strategol allweddol

Mae datganiadau ardal yn darparu sylfaen dystiolaeth leol a all gyfrannu at gyhoeddi Adroddiadau ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn y dyfodol. Rhaid ystyried datganiadau ardal mewn asesiadau o lesiant lleol. Rhaid i awdurdodau cynllunio ystyried datganiadau ardal wrth baratoi eu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a rhaid i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol eu hystyried wrth baratoi neu adolygu eu cynlluniau rheoli ar gyfer Parciau Cenedlaethol. Y datganiadau ardal fydd y prif adnodd a ddefnyddir wrth ddyrannu cyllid yn y dyfodol ar gyfer prosiectau sy'n seiliedig ar yr amgylchedd ac mae'n bosibl y byddant yn ysgogi taliadau rheoli tir ar ôl Brexit hefyd. Byddant hefyd yn ysgogi gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru o gynllunio busnes corfforaethol. 

Er bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am greu datganiadau ardal, proses gydweithredol yw eu creu a'u gweithredu. Bydd integreiddio tystiolaeth a dealltwriaeth gan gyrff cyhoeddus eraill yn y datganiadau ardal yn sicrhau blaenoriaethau a rennir. Yn ogystal â hynny, wrth roi egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ar waith, rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru ddefnyddio dulliau cydweithredol i ddatblygu datganiadau ardal. 

Mae'r dull hwn o weithio'n gwella'r broses benderfynu ac yn lleihau unrhyw ddyblygu trwy weithio ar y cyd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff cyhoeddus eraill.

Mae'n bwysig felly ein bod yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid strategol wrth greu datganiad ardal y de-ddwyrain ac integreiddio cyfleoedd ar y cyd i gyflawni buddiannau llesiant mewn ffordd sy'n helpu i lywio gwaith strategol mewn partneriaeth ar raddfa ranbarthol.

Integreiddio

Yng Ngwent, rydym wedi dylunio ein datganiad ardal mewn ffordd sy'n adlewyrchu ein hamcanion partneriaeth strategol orau. Wrth wneud hynny rydym wedi datblygu, yn gynnar yn y broses, rhai themâu sy'n dod i'r amlwg1; mae'r themâu hyn yn adlewyrchu'n bennaf y blaenoriaethau rhanbarthol sydd wedi dod o'r broses o gynllunio llesiant yng Ngwent.

Mae'r paragraff canlynol yn nodi gweledigaeth pob un o'r themâu sy'n dod i'r amlwg:

Cysylltu ein Tirweddau: Yn nodi cyfleoedd lleol ar gyfer ein safleoedd gwarchodedig, ein hamgylchedd naturiol a'n hamgylchedd adeiledig er mwyn cyfrannu at wydnwch y rhwydweithiau cynefinoedd blaenoriaethol ehangach yn y rhanbarth. Dylai'r cyfleoedd hyn ar gyfer gwella gwydnwch ecosystemau hybu'r cysylltedd ecolegol rhwng safleoedd, ar draws ffiniau ac ar raddfa-tirwedd. 

Gwent yn Barod ar gyfer yr Hinsawdd: Yn nodi ymyriadau ar y cyd a chyfleoedd ar raddfa ranbarthol a thirwedd ar gyfer ymaddasu i newid hinsawdd a’i liniaru.  

Iach, Heini, Cysylltiedig: Yn gweithio gyda'r system gofal sylfaenol a chymdeithasol er mwyn datblygu a darparu gwasanaethau ac ymyriadau sy'n canolbwyntio ar ddefnyddio'r amgylchedd naturiol.

Ffyrdd o weithio: Yn nodi manteision cydweithio strategol rhanbarthol. Yn nodi'r hyn y mae angen i ni ei wneud unwaith, yn dda, ar y raddfa ranbarthol hon er mwyn darparu'r gwasanaeth gorau ar lefel leol.

Proffiliau o'r Dirwedd: Mecanwaith ar gyfer cyfranogi, cydweithio a chydweithredu ar thema gwydnwch ecosystemau

Ym mis Ebrill 2019, daeth partneriaid a oedd yn gweithio ar reoli adnoddau naturiol a llesiant yn neddwyrain Cymru ynghyd er mwyn ffurfio cyfres o Baneli Tirwedd. Ymgynullwyd y Paneli Tirwedd er mwyn creu cyfres o broffiliau o'r dirwedd a ddatblygwyd dros gyfnod o bum mis hyd fis Awst 2019. Roedd angen i bob Panel gydweithio er mwyn creu sylfaen dystiolaeth gyffredin sy'n cyfuno tystiolaeth genedlaethol a lleol ar iechyd ein hecosystemau er mwyn helpu i nodi'r hyn y mae angen i ni ei wella o ran iechyd ein hasedau naturiol a pham. 

Mecanwaith yw Proffiliau o'r Dirwedd i sicrhau bod tystiolaeth genedlaethol a gwybodaeth dechnegol ar lawr gwlad, gyda'i gilydd, yn llywio ein dealltwriaeth o wydnwch ecosystemau yn y deddwyrain. Maent hefyd yn fecanwaith i ddylanwadu ar bolisi a llywio cynllunio a gwaith cyflenwi sy’n seiliedig ar leoedd trwy'r datganiad ardal. Ein huchelgais yw integreiddio Proffiliau o'r Dirwedd yn llawn yn y ffordd rydym yn gweithio ledled de-ddwyrain Cymru yn y dyfodol.

Dysgu

Anogwyd pob Panel Tirwedd, wrth gael cyfres gyson o gwestiynau i'w hateb, i ddod i gytundeb ar gyfleoedd a datblygu dull seiliedig ar leoedd o weithio er mwyn gwella gwerth partneriaethau strategol allweddol ar raddfa-tirwedd ledled y rhanbarth. O ganlyniad, mae pob proffil yn dra gwahanol. Ni ddylid diystyru'r her o weithio yn y modd hwn i CNC a’i randdeiliaid allweddol. Mae'r dull hwn o wneud pethau'n wahanol wedi tynnu sylw at fylchau yn ein cyd-ddealltwriaeth o wydnwch ecosystemau. Yn ogystal â hynny, mae wedi tynnu sylw at sut a ble y gallai fod angen i ni greu methodolegau cyffredin ar draws y rhanbarth er mwyn deall yn well achosion sylfaenol problemau a bygythiadau i wydnwch ein cynefinoedd mwyaf gwerthfawr. Mae'r dull hefyd wedi herio ein hymrwymiad a'n gallu i gydweithio mewn ffordd ystyrlon gyda'n rhanddeiliaid allweddol, ac er bod pob partner yn cydnabod manteision y dull, mae holl aelodau’r Paneli wedi ei chael yn anodd ymrwymo rhyw lawer o'u hadnoddau i'w creu gan eu bod yn cyflawni amserlen waith sydd eisoes yn llawn yn unol ag ymrwymiadau presennol (sydd yn aml yn rhai statudol).

Felly, dylid ystyried Proffiliau o'r Dirwedd yn ddogfennau gweithio a fydd yn ddull o sicrhau cyfranogiad a chydweithredu gyda rhanddeiliaid. Rydym yn cydnabod nad ydynt yn berffaith ac nad ydynt yn iteriad terfynol o'n gwybodaeth ar y cyd. Trwy rannu'r allbynnau, rydym yn gobeithio adeiladu ar y cam cyntaf hwn a chreu glasbrint mwy cydlynol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth ar raddfa-tirwedd yn y dyfodol. 

Y camau nesaf

Roedd angen cyflwyno'r datganiadau ardal cyntaf erbyn mis Mawrth 2020. Cam nesaf y gwaith o ddatblygu'r datganiadau ardal oedd casglu'r meysydd o dystiolaeth a ddatblygwyd dros y 12 mis cyntaf o weithio mewn partneriaeth (gan gynnwys y Proffiliau o'r Dirwedd) er mwyn nodi'r camau y gall Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill eu cymryd er mwyn sicrhau y caiff adnoddau naturiol eu rheoli'n gynaliadwy ar draws y rhanbarth. 

Rydym yn gwneud hyn trwy ein mecanweithiau partneriaeth presennol o fewn cylch y Corff Sector Cyhoeddus (CSC) a thu hwnt, gan alw ar swyddogion ac arbenigwyr technegol ar draws ein sefydliadau er mwyn hybu'r gwaith o nodi gweithgareddau ac ymyriadau strategol a fydd yn ychwanegu gwerth at y gwaith lleol ar y tir. Wrth wneud hynny, ein nod oedd hybu cydweithredu ac integreiddio rhanbarthol a fydd yn ychwanegu gwerth at flaenoriaethau partneriaeth lleol.

Beth mae'n ei olygu i chi a'ch sefydliadau?

Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid strategol allweddol er mwyn sicrhau y bydd y datganiadau ardal yn hybu gweithio ar y cyd fel y mae angen iddynt ei wneud. Y nod yw ystyried yr holl dystiolaeth a grëwyd hyd yn hyn o dan bob un o'r themâu fel y gallwn wneud y canlynol:

Datblygu consensws ynghylch sut a ble y gallwn wella'r gwasanaethau y mae ein hardaloedd naturiol yn eu darparu i ddinasyddion Gwent.

Nodi fframweithiau, methodolegau ac adnoddau y gellir eu defnyddio ar draws y rhanbarth er mwyn gwella iechyd ein hardaloedd naturiol a'r manteision y maent yn eu darparu. 

Defnyddio ein tystiolaeth gyfunedig orau a'n harbenigedd technegol gorau sydd ar gael er mwyn nodi cyfleoedd gofodol a chyfleoedd ar raddfa-tirwedd i sicrhau y caiff adnoddau naturiol eu rheoli'n gynaliadwy. 

Datblygu adroddiad integredig o sefyllfa byd natur ar gyfer Gwent a chynllun gweithredu adfer natur sy'n mynd i'r afael ag achos sylfaenol y bygythiadau i'n hecosystemau ac sy'n mynd i'r afael â nhw ar y raddfa briodol.

Nodi llwybrau rhanbarthol neu gyfleoedd strategol a fydd yn ychwanegu gwerth at y gwaith o sicrhau llesiant lleol a gwella iechyd ein hardaloedd naturiol.

                                                             

1 Y themâu sy'n dod i'r amlwg a lywiwyd gan Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2016 ; Natur hanfodol;

Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol; Cynllun Llesiant Sir Fynwy; Cynllun Llesiant Torfaen; Cynllun Llesiant

Casnewydd; Cynllun Llesiant Caerffili; Cynllun Llesiant Lleol Blaenau Gwent; Adroddiad Blynyddol y

Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus 2018: A Healthier Future for Gwent ;   Gwent Futures Scenario Report; Brown, Netherwood, Thomas (2017) Trosolwg o Amcanion Llesiant Gwent - Adroddiad Terfynol.