Canlyniadau 2021

Mae canlyniadau arolwg Bugs Matter y llynedd wedi’u cyhoeddi – bu gostyngiad syfrdanol o 57.8% rhwng 2004 a 2021 yn nifer y pryfed a samplwyd ar blatiau rhif cerbydau gan ddinasyddion wyddonwyr ledled y DU. 

Yng Ngwent, mae nifer y pryfed wedi gostwng 40% rhwng 2004 a 2021, sy’n peri pryder. Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma: 

Mae'r ffigurau hyn yn dangos tuedd sy'n dirywio’n gyflym yn niferoedd y pryfed ledled y wlad. Mae'r canfyddiadau hyn yn gyson ag ymchwil sydd wedi adrodd yn eang ar dueddiadau o ddirywio yn fyd-eang.

 

A Bugs Matter grid on a car number plate
Take Action

Bugs Matter Survey

Download the Bugs Matter app for IOS or Android and create an account

Your grid will be posted to you

Record bugs splatted on your number plate at the end of journeys from 1st June - 31st August

Submit your findings via the app 

#BugsMatter

Cardinal beetle /

Penny Frith

Arolwg Bugs Matter – bod yn Ddinesydd Wyddonydd

Mae pryfed yn peillio tri chwarter ein cnydau bwyd, yn ogystal â bod yn elfennau hanfodol o ecosystemau. Fodd bynnag, mae eu niferoedd yn gostwng.

Mae Bugs Matter yn arolwg Dinesydd Wyddoniaeth. Rydym eisiau ailadrodd yr arolwg bob blwyddyn er mwyn deall y poblogaethau lleol o bryfed yn llawn a sut i'w diogelu rhag colledion poblogaeth pellach. Mae monitro niferoedd y pryfed hefyd yn ddangosydd da ar gyfer mesur llwyddiant ein gwaith cadwraeth ar raddfa tirwedd.

Lawrlwytho’r ap i gymryd rhan

Bydd rhannu canfyddiadau eich siwrneiau yn ein helpu ni i ddeall mwy am ein poblogaethau o bryfed, wrth i dystiolaeth gynyddol dynnu sylw at eu dirywiad ar raddfa fyd-eang. Mae eich cyfranogiad yn yr arolwg natur yma’n hanfodol i ni allu monitro tueddiadau poblogaeth, mynd i'r afael ag achosion colli pryfed, a'u hatal a'u gwyrdroi.

Drwy gymryd rhan yn arolwg Bugs Matter, rydych chi’n cyfrannu data pwysig i adnabod tueddiadau poblogaeth pryfed.

Os oes gennych chi ffôn clyfar, gallwch chi gymryd rhan gan ddilyn y camau hawdd yma:

  • Lawrlwytho’r ap am ddim sydd ar gael ar IOS ac Android.
  • Creu cyfrif i gofrestru a bydd eich ‘sblatometr’ yn cael ei bostio atoch chi.
  • Dechrau arolygu ar unrhyw siwrnai rydych chi’n ei gwneud mewn cerbyd rhwng 1af Mehefin a 31ain Awst.
  • Gorau po fwyaf o deithiau hanfodol y byddwch chi'n eu defnyddio i gynnal yr arolwg - ac mae cyfrif o ddim pryfed yr un mor bwysig i'w gyflwyno!

Mae’r cysyniad yn syml:

  • Glanhewch y plât rhif cyn gwneud taith hanfodol mewn cerbyd.
  • Pan fyddwch yn cyrraedd pen eich taith, cyfrwch y pryfed sydd wedi’u lladd ar y plât rhif gan ddefnyddio grid ‘sblatometr’ a fydd yn cael ei bostio atoch chi pan fyddwch yn cofrestru.
  • Wedyn rhaid cyflwyno llun a manylion drwy'r ap.
  • Nid oes raid i chi fod yn yrrwr y cerbyd rydych chi’n teithio ynddo - ond mae angen ei ganiatâd.
  • Mae'r ap hefyd yn cynnwys tiwtorial a rhywfaint o gyngor diogelwch.
Bugs Matter phone app

Pam cyfrif pryfed wedi'u gwasgu?

Mae pryfed yn wynebu difodiant torfol. Maent yn elfen hanfodol o ecosystemau ac mae bywyd anifeiliaid mewn perygl. Hebddynt, byddai bywyd ar y ddaear yn chwalu. Fodd bynnag, mae’r patrymau a’r tueddiadau mewn niferoedd pryfed yn gynnil, ac mae angen mwy o ddata i ddeall beth sy'n digwydd yn llawn.

Gallwch chi helpu drwy gymryd rhan yn ein harolwg yr haf yma yn ogystal â chymryd y camau syml hyn gartref:

  • Gall defnyddio opsiynau eraill yn lle gwrtaith mawn helpu i leihau allyriadau CO2 ac arafu effaith newid hinsawdd ar bryfed a'n hamgylchedd.
  • Cadw’r chwistrell - drwy ddileu neu leihau ein defnydd o blaladdwyr, gallwn atal dirywiad miloedd o bryfed mewn amrantiad.
  • Bod yn llai taclus – gallwch chi helpu’r pryfed yn eich gardd drwy adael i’r glaswellt dyfu’n dalach a hau blodau gwyllt. Pe bai gan bob gardd lecyn bach ar gyfer pryfed, gyda'i gilydd mae'n debyg mai dyma fyddai'r ardal fwyaf o gynefin bywyd gwyllt yn y byd.
  • Gwylio eich ôl troed - mae newid hinsawdd yn fygythiad cynyddol i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, gan gynnwys pryfed. Prynwch eich bwyd gan gyflenwyr lleol, defnyddiwch eich siop leol, neu dyfu eich llysiau eich hun. Nid yn unig y bydd hyn yn lleihau eich ôl troed carbon, ond hefyd bydd yn helpu cynhyrchwyr bwyd bach i gystadlu â busnesau bwyd a ffermio mawr.
  • Ymunwch â sefydliad fel eich Ymddiriedolaeth Natur leol neu Buglife. Mae elusennau fel y rhain yn gwneud gwaith hanfodol i warchod ac adfer ein safleoedd bywyd gwyllt pwysicaf, adfer cynefinoedd coll ar raddfa fawr ac ailgysylltu ein cefn gwlad.

 

Mae arnom ni angen eich help chi i ddiogelu dyfodol cynaliadwy ar gyfer pryfed a ni’n hunain.

 

Ewch ati i Gymryd Rhan

 

Lawrlwythwch ap Bugs Matter ar gyfer IOS neu Android a chreu cyfrif

Bydd grid yn cael ei anfon atoch chi drwy’r post

Cofnodwch faint o bryfed sydd wedi’u gwasgu ar blât rhif eich cerbyd ar ddiwedd siwrneiau rhwng 1af Mehefin a 31ain Awst.

Wedyn cyflwynwch eich canfyddiadau drwy’r ap 

#BugsMatter

 

 

Argyfwng Hinsawdd a Byd Natur 

 

Rydyn ni yng nghanol argyfwng. Ledled y byd, gallwn weld effaith ddinistriol newid yn yr hinsawdd ar bobl ac ar y byd naturiol o’n cwmpas. Mae Ymddiriedolaeth Natur Gwent yn cydweithio i gasglu data, i ddeall beth sydd wrth wraidd hyn, ac i weithio i geisio dad-wneud y dirywiad er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i bryfed o bob math – ac i ninnau. 

Heb wenyn a phryfed peillio, fe fydd hi'n anodd iawn cynhyrchu bwyd a goroesi yn y dyfodol – allwch chi helpu i ariannu ein hateb naturiol? 

Am wybodaeth – rydyn ni hefyd wedi creu blwch negeseuon e-bost: info@bugsmatter.app

Argraffu eich Sblatometr eich hun