Arolwg Bugs Matter yn canfod bod nifer y pryfed hedfan yng Ngwent wedi dirywio 40% mewn llai nag 20 mlynedd

Arolwg Bugs Matter yn canfod bod nifer y pryfed hedfan yng Ngwent wedi dirywio 40% mewn llai nag 20 mlynedd

Mae arolwg gwyddoniaeth y dinesydd, dan arweiniad Ymddiriedolaeth Natur Caint a Buglife, wedi canfod bod nifer y pryfed hedfan yng Ngwent wedi plymio 40% yn ystod yr 17 mlynedd diwethaf; gan dynnu sylw at duedd sy’n peri pryder a’r angen hanfodol am ymchwil cadwraeth â’i ffocws ar gadwraeth pryfed, ledled y wlad.

Mae canfyddiadau Bugs Matter 2021, sy’n cael eu cyhoeddi mewn adroddiad sy’n cael ei ryddhau gan Ymddiriedolaeth Natur Caint a Buglife, yn dangos bod nifer y pryfed a samplwyd ar blatiau rhif cerbydau gan ddinesydd wyddonwyr ledled Gwent wedi lleihau 40%, canran syfrdanol, rhwng 2004 a 2021. Mae'r canfyddiadau hyn yn gyson ag ymchwil sydd wedi adrodd yn eang ar dueddiadau o ddirywiad mewn poblogaethau o bryfed yn fyd-eang.

Ledled y DU yn gyffredinol, bu gostyngiad pryderus o 60% yn nifer y pryfed hedfan rhwng 2004 a 2021. Mae'r dirywiad a welwyd yn ystadegol arwyddocaol ac yn arwydd o batrwm sy'n peri pryder.

Mae’r prosiect Bugs Matter, sy’n cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Natur Caint a Buglife, a’i gefnogi gan nifer o sefydliadau cadwraeth bywyd gwyllt eraill, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Natur Gwent, yn un o’r ychydig o arolygon gwyddoniaeth y dinesydd yn y DU o nifer y pryfed sy’n cynhyrchu data pwysig.

Wedi'i ysbrydoli gan y 'ffenomen ffenestr flaen' (term a roddir i'r sylw cyffredinol bod pobl yn gweld llai o bryfed yn cael eu gwasgu ar ffenestri blaen eu ceir heddiw o gymharu â sawl degawd yn ôl), mae Bugs Matter yn sicrhau help y cyhoedd i fonitro iechyd poblogaethau pryfed y DU. Mae'r cysyniad yn syml: cyn gwneud siwrnai hanfodol mewn cerbyd, glanhewch y plât rhif. Ar ôl pob siwrnai, cyfrwch y pryfed sydd wedi’u gwasgu ar y plât rhif gan ddefnyddio grid ‘sblatometr’, sy’n cael ei bostio atoch chi pan fyddwch yn lawrlwytho’r ap Bugs Matter am ddim. Cyflwynir llun a manylion y cyfrif drwy'r ap.

Mae pryfed ac infertebrata eraill yn hanfodol i amgylchedd gweithredol iach. Maen nhw’n peillio’r rhan fwyaf o gnydau’r byd, yn darparu gwasanaethau rheoli plâu naturiol, yn dadelfennu deunydd organig ac yn ailgylchu maethynnau i’r pridd. Hebddynt, byddai bywyd ar y ddaear yn dymchwel.

Mae cyfrif pryfed nid yn unig yn rhoi amcangyfrif o faint o bryfed sydd yn ein trefi a’n cefn gwlad, ond mae hefyd yn fesur o iechyd ein hamgylchedd. Mae pryfed yn hanfodol i gynnal a chadw amgylchedd iach, felly pan fydd eu niferoedd yn gostwng mae hynny'n arwydd bod byd natur mewn trafferth.

Gall nifer y pryfed hefyd ddangos lle mae bywyd gwyllt yn adfer, ac felly gellir defnyddio Bugs Matter i fesur sut mae gwaith sefydliadau cadwraeth ac eraill yn helpu adferiad byd natur. 

Lawrlwythwch ap Bugs Matter i gymryd rhan yn yr arolwg eleni, rhwng 1 Mehefin a 31 Awst 2022. Mae cymryd rhan yn gyflym, am ddim ac yn hawdd.

-             iOS App Store: Bugs Matter yn yr App Store (apple.com)

-             Google Play: Bugs Matter - Apps ar Google Play

Mae canlyniadau'r arolygon parhaus hyn yn sail i ofyniad cynyddol am ymchwil cadwraeth, polisi ac arfer wedi'i dargedu at bryfed yn y DU.

Dywedodd Gemma Bodé, Pennaeth Adfer Natur Ymddiriedolaeth Natur Gwent:

“Mae’r ystadegau o’r astudiaeth hon yn hynod frawychus ac yn anffodus yn cadarnhau’r hyn rydyn ni wedi’i feddwl ers blynyddoedd lawer.

“Mae ein pryfed yn allweddol i gymaint rydyn ni i gyd yn dibynnu arno, gan gynnwys y bwyd rydyn ni'n ei fwyta. Mae eu dirywiad dramatig yn effeithio ar rywogaethau eraill hefyd, gan eu bod yn ffynhonnell fwyd allweddol i lawer o adar, ystlumod a mamaliaid eraill. Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i wyrdroi’r dirywiad hwn ar frys.”

Dywedodd Paul Hadaway, Cyfarwyddwr Cadwraeth Ymddiriedolaeth Natur Caint:

“Dylai canlyniadau astudiaeth Bugs Matter beri sioc a phryder i bob un ohonom ni. Rydyn ni’n gweld dirywiad mewn pryfed sy'n adlewyrchu'r bygythiadau enfawr a cholli bywyd gwyllt yn ehangach ledled y wlad. Mae'r dirywiad yma’n digwydd ar raddfa frawychus a heb weithredu ar y cyd i fynd i'r afael â nhw, rydyn ni’n wynebu dyfodol llwm. Mae pryfed a pheillwyr yn hanfodol i iechyd ein hamgylchedd a’n heconomïau gwledig. Mae angen gweithredu ar gyfer ein holl fywyd gwyllt nawr drwy greu mwy o ardaloedd, ac ardaloedd mwy o ran maint, o gynefinoedd, darparu coridorau drwy’r dirwedd ar gyfer bywyd gwyllt a chaniatáu i lefydd natur adfer.”

Dywedodd Matt Shardlow, Prif Swyddog Gweithredol Buglife:

“Mae’r astudiaeth hollbwysig yma’n awgrymu bod nifer y pryfed hedfan yn gostwng ar gyfartaledd o 34% bob degawd, mae hyn yn frawychus. Ni allwn ohirio gweithredu mwyach, er lles iechyd a lles cenedlaethau’r dyfodol mae hyn yn gofyn am ymateb gwleidyddol a chymdeithasol, mae’n hanfodol ein bod ni’n atal dirywiad bioamrywiaeth – nawr!”

Mae tîm Bugs Matter yn diolch i bawb a gymerodd ran yn 2021 ac yn gobeithio y bydd mwy o ddinesydd wyddonwyr yn cymryd rhan ledled Gwent yn 2022.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.kentwildlifetrust.org.uk/bugs-matter

A Bugs Matter grid on a car number plate

Read the Bugs Matter study report for Gwent