Hyfforddai Adfer Natur
Rydym yn darparu un rôl hyfforddai lawn amser, gyda thâl, yn dechrau ym mis Medi 2026 am flwyddyn.
Manylion cyswllt
Am sgwrs anffurfiol am y rôl yma, cysylltwch â Gemma Bodé, 01600 740600, gbode@gwentwildlife.org
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Sul 5ed Gorffennaf 2026 gyda chyfweliadau'n cael eu cynnal yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar ddydd Llun 20fed a dydd Mawrth 21ain Gorffennaf 2026
Bydd y lleoliad hyfforddi’n eich galluogi chi i ennill profiad amhrisiadwy yn gweithio gyda'n Tîm Adfer Natur i gefnogi ein gwaith ni yn ein Gwarchodfeydd Natur a grwpiau gwirfoddol wythnosol, yn ogystal â gwaith monitro bywyd gwyllt ac adnabod rhywogaethau. Bydd cyllideb hyfforddi hefyd i gefnogi diddordebau unigol. Rhaid i bob ymgeisydd allu dangos y gallu i weithio'n galed yn yr awyr agored ym mhob tywydd, gyda'r dyhead i ddysgu sgiliau newydd a dangos blaengaredd wrth gefnogi gwaith YNG.
Mae ein Gwarchodfeydd Natur ni’n cynnwys cynefinoedd o bwys cenedlaethol, o'r coed Ffawydd uchaf yng Nghymru i ddolydd blodau gwyllt hardd yn Nyffryn Gwy.
Mae hwn yn gyfle anhygoel ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir, gan gynnwys unigolion sydd newydd adael yr ysgol neu raddedigion. Rydym yn chwilio am rywun sydd â gwir angerdd dros fywyd gwyllt sy'n cael ei adlewyrchu yn eu profiadau bywyd ac i hyn fod yn yrfa iddynt yn y dyfodol.
Nid yw'r rôl yma’n addas ar gyfer ymgeiswyr sy’n gweithio mewn swydd ym maes cadwraeth natur ar hyn o bryd.
Rydym yn annog ceisiadau yn arbennig gan bobl sydd wedi eu tan-gynrychioli yn ein sector, gan gynnwys pobl o gefndiroedd lleiafrifol a phobl â anableddau. Rydym yn ymrwymedig i greu symudiad sy'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi gwirioneddol wahaniaethau a hunaniaethau unigol.
Fel cyflogwr Sy'n Hyderus yn y Cyflwr Anabledd, rydym yn ymrwymedig i gynnig cyfweliad i unrhyw un â anabledd sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer y swydd. Rhowch wybod i ni os ydych angen unrhyw addasiadau i wneud ein proses recriwtio yn fwy hygyrch.
Job Pack
- Nature Recovery Trainee JD ENGLISH.pdf (217.21 KB)
- Nature Recovery Trainee JD WELSH.pdf (221.78 KB)
TWT Recruitment video (https://www.youtube.com/watch?v=cFZ1pwrOYgc&feature=youtu.be)
Come and work for The Wildlife Trusts!
Disability Confident Committed
Welsh Heritage Fund