Gwahadden

Mole

©Steve Bottom

Gwahadden

Enw gwyddonol: Talpa europaea
Gwaith gwahaddod yw’r sypiau brown o ddaear sy’n gallu addurno lawnt. Mae’r mamal brown, byrdew yma’n treulio ei oes yn creu tyllau o dan y ddaear gyda phawennau siâp rhaw, yn hela am bryfed genwair i’w bwyta.

Species information

Ystadegau

Hyd: 15 cm (a chynffon 4 cm)
Pwysau: 70-130 g
Yn byw ar gyfartaledd am: 3-4 blynedd

Statws cadwraethol

Cyffredin

Pryd i'w gweld

Ionawr - Rhagfyr

Ynghylch

Pur anaml mae rhywun yn gweld gwahaddod gan eu bod yn treulio’r rhan fwyaf o’u bywydau o dan y ddaear. Dyma anifeiliaid byrdew, gyda chorff siâp lletem a chynffon fer. Maen nhw’n defnyddio eu pawennau siâp rhaw i gloddio twnnelau a hela eu hoff bryd bwyd, pryfed genwair. Hefyd maen nhw’n hoffi bwyta cynrhon sy’n byw o dan y ddaear a fyddai’n bwydo ar gnydau fel rheol, felly gall gwahaddod helpu i reoli ymwelwyr nad oes croeso iddyn nhw!
Drwy gloddio’r ddaear, mae gwahaddod yn helpu i wneud y pridd yn iachach drwy greu aer ynddo. Mae hyn yn galluogi i fwy o fathau o blanhigion dyfu sydd, yn ei dro, yn bwydo mwy o bryfed. Hefyd, mae eu twnnelau’n gwella draeniad mewn pridd, sy’n helpu i atal llifogydd a phyllau enfawr rhag ffurfio ar y ddaear. Gwahaddod yw arwyr tawel byd yr anifeiliaid!

Sut i'w hadnabod

Mae’r wahadden yn hawdd ei hadnabod. Mae’n anifail bach, byrdew, wedi’i orchuddio gan ffwr melfed, du, gyda llygaid bach iawn, trwyn hir, pinc a dwy ‘law’ fawr, sy’n debyg i rawiau fel pawennau blaen. Rydych chi’n fwy tebygol o weld twmpathau gwahaddod (y pentyrrau o ddaear sy’n codi wrth iddyn nhw gloddio) na’r gwahaddod eu hunain.

Dosbarthiad

Eang, ond yn absennol o Ynysoedd y Sianel, Ynysoedd Sili, ynysoedd yr Alban, Ynys Manaw a Gogledd Iwerddon.

Roeddech chi yn gwybod?

Gall gwahadden gloddio hyd at 20 metr o dwnnel mewn diwrnod gan ddefnyddio ei phawennau blaen, sy’n edrych fel rhawiau, i symud ei ffordd drwy’r pridd fel pe bai’n nofio dull brest. Yn achlysurol, mae’r pridd rhydd yn cael ei wthio i’r wyneb, gan arwain at y twmpath gwahadden rydyn ni’n ei weld.

Mae côt felfedaidd y wahadden yn ei helpu i symud yn rhwydd drwy’r pridd ac mae ei cheg a’i thrwyn yn cael eu gwarchod rhag y pridd gan eu bod yn wynebu am i lawr.

.