Aderyn drycin Manaw

Manx Shearwater

©Chris Gomersall/2020VISION

Aderyn drycin Manaw

Enw gwyddonol: Puffinus puffinus
Mae’r aderyn bach dirgel yma’n adnabyddus am ei gri iasol ac ar un adeg, cafodd ei gamgymryd am wrachod gan fôr-ladron oddi ar arfordir Cymru! Mae’n teithio miloedd o filltiroedd bob blwyddyn i nythu yn ei dwll bach yn y ddaear er mwyn magu un cyw hynod fflwfflyd.

Species information

Ystadegau

Hyd: 30-38 cm
Lled yr adenydd: 82 cm
Pwysau: 420 g
Oes ar gyfartaledd: 15 mlynedd

Statws cadwraethol

Wedi’i gategoreiddio yn y DU fel Oren o dan Bryder am Adar Cadwraeth 4: y Rhestr Goch ar gyfer Adar (2015).

Pryd i'w gweld

Chwefror - Gorffennaf

Ynghylch

Mae adar drycin Manaw yn perthyn i grŵp o adar sy’n cael eu hadnabod fel ‘tiwbdrwynau’, ac mae’r grŵp hefyd yn cynnwys aderyn drycin y graig, albatrosiaid enfawr a phedrynnod drycin bach. Mae aderyn drycin Manaw yn aderyn anhygoel ac mae’n hedfan am filoedd o filltiroedd er mwyn dychwelyd i’r un twll bob blwyddyn, gan nythu ar ynysoedd bychain oddi ar arfordir gorllewinol Prydain. Mae’n magu un cyw hynod fflwfflyd bob blwyddyn ac mae’r rhiant yn aros nes ei bod wedi tywyllu cyn mynd allan i bysgota. Mae cywion adar drycin Manaw yn tyfu mor fawr fel nad ydynt yn gallu gadael y nyth – ac wedyn mae’n rhaid iddynt fynd ar ddeiet er mwyn paratoi ar gyfer eu siwrnai hir i Dde America ar gyfer y gaeaf.

Sut i'w hadnabod

Aderyn du a gwyn canolig ei faint ac mae gan aderyn drycin Manaw adenydd hir, stiff. Yn faint gwylan fechan yn fras, mae’n ddu uwch ben ac yn wyn oddi tanodd.

Dosbarthiad

Mae’n nythu ar ynysoedd creigiog o amgylch arfordir Cymru, yr Alban, Iwerddon ac Ynysoedd Sili.

Roeddech chi yn gwybod?

Roedd aderyn drycin Manaw oedd yn nythu ar Ynys Enlli yng Nghymru yn 2008 yn fwy na 50 oed ac roedd wedi hedfan amcangyfrif o ryw 5 miliwn o filltiroedd yn ystod ei oes.

Sut y gall bobl helpu

The Wildlife Trusts are working with fishermen, researchers, politicians and local people towards a Living Seas vision, where coastal and marine wildlife thrives alongside the sustainable use of the ocean's resources. Do your bit for our Living Seas by supporting your local Wildlife Trust.