
Sut i osod casgen ddŵr yn ei lle
Mae dŵr glaw yn well i blanhigion na dŵr cartref wedi'i drin yn gemegol, a byddwch yn helpu i arbed ein dŵr hanfodol hefyd.
Bydd angen:
- Haclif
- Tâp mesur
- Dril
- Beiro neu bensil
- Sgriwdreifar
- Lefelydd
Cam 1
Chwiliwch am arwyneb solet, fflat ger pibell ddŵr gwter. Defnyddiwch lefelydd i wirio. Bydd arnoch angen stand neu frics i osod eich casgen ddŵr arno fel ei bod wedi'i chodi fel bod posib i’r can dyfrio ffitio o dan y tap.
Cam 2
Opsiwn un - wrth ymyl y bibell ddŵr:Torrwch y bibell ddŵr a gosodwch y gasgen ddŵr yn uniongyrchol oddi tani. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn dargyfeirio. Marciwch uchder y gasgen ddŵr ar y bibell ddŵr. Bydd raid i chi dorri'r bibell tua 3cm o'r pwynt yma gan ddefnyddio haclif. Gosodwch y ffitiad dargyfeirio dŵr glaw wrth y darn wedi'i dorri o'r bibell ddŵr.
Opsiwn dau - mewn lleoliad arall:Torrwch hollt allan o'r bibell ddŵr a defnyddiwch ddargyfeiriwr i gario'r dŵr o'r bibell i'r gasgen ddŵr – fel eich bod yn gallu gosod y gasgen ble rydych chi eisiau.
Cam 3
Rhowch gaead ar y gasgen. Mae hyn yn sicrhau na all unrhyw anifeiliaid bach syrthio i mewn a bydd yn cadw pryfed allan. Y cyfan sydd angen ei wneud nawr yw aros i'r glaw ddod!