Sut i osod casgen ddŵr yn ei lle

Sut i osod casgen ddŵr yn ei lle

Mae casgenni dŵr yn lleihau'r risg o lifogydd lleol a byddant yn lleihau biliau dŵr drwy arbed y dŵr sydd gennych chi eisoes. Maen nhw’n wych ar gyfer dyfrio'r ardd, ail-lenwi'r pwll - neu olchi'r car hyd yn oed!

Mae dŵr glaw yn well i blanhigion na dŵr cartref wedi'i drin yn gemegol, a byddwch yn helpu i arbed ein dŵr hanfodol hefyd.

Bydd angen:

  • Haclif
  • Tâp mesur
  • Dril
  • Beiro neu bensil
  • Sgriwdreifar
  • Lefelydd  

Cam 1

Chwiliwch am arwyneb solet, fflat ger pibell ddŵr gwter. Defnyddiwch lefelydd i wirio. Bydd arnoch angen stand neu frics i osod eich casgen ddŵr arno fel ei bod wedi'i chodi fel bod posib i’r can dyfrio ffitio o dan y tap.

Cam 2

Opsiwn un - wrth ymyl y bibell ddŵr:Torrwch y bibell ddŵr a gosodwch y gasgen ddŵr yn uniongyrchol oddi tani. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn dargyfeirio. Marciwch uchder y gasgen ddŵr ar y bibell ddŵr. Bydd raid i chi dorri'r bibell tua 3cm o'r pwynt yma gan ddefnyddio haclif. Gosodwch y ffitiad dargyfeirio dŵr glaw wrth y darn wedi'i dorri o'r bibell ddŵr. 

Opsiwn dau - mewn lleoliad arall:Torrwch hollt allan o'r bibell ddŵr a defnyddiwch ddargyfeiriwr i gario'r dŵr o'r bibell i'r gasgen ddŵr – fel eich bod yn gallu gosod y gasgen ble rydych chi eisiau.

Cam 3

Rhowch gaead ar y gasgen. Mae hyn yn sicrhau na all unrhyw anifeiliaid bach syrthio i mewn a bydd yn cadw pryfed allan. Y cyfan sydd angen ei wneud nawr yw aros i'r glaw ddod!