Tîm Gwyllt

Man holding child as she puts up a bird box

Putting up a bird box by Evie and Tom Photography

Tîm Gwyllt

Rydyn ni eich angen chi yn ein Tîm ni!

Mae tystiolaeth yn dweud, os cawn ni 1 o bob 4 o bobl i gymryd camau gweladwy dros fyd natur, rydyn ni’n creu ‘pwynt tyngedfennol’ cymdeithasol – eiliad hud pan fydd ymddygiad cymdeithasol (yn ein hachos ni y math o blaid natur) yn symud y dorf i wneud yr un peth. 

Rydyn ni angen eich help chi i wthio’r cydbwysedd o blaid natur. Rydyn ni angen i chi ymuno â’r Tîm Gwyllt - pobl sy'n gweithredu dros fyd natur ledled y sir sydd mor agos at eu calon; pobl sy’n gwneud, yn symud, yn ysgwyd, llysgenhadon, ymgyrchwyr a phobl sy’n creu newid. Oherwydd dim ond gyda'n gilydd y gallwn ni sicrhau'r newid sydd ei angen ar natur!

Sut gallwn ni gydweithio i weithredu dros fyd natur heddiw? Sgroliwch ymlaen i ddod o hyd i syniadau ac adnoddau ar gyfer eich cymuned, cartref a gardd.

Please enable javascript in your browser to see the map.

Contribute to the Team Wilder Map!

Add yourself to the map if you are part of one of the following: Green Streets & Gardens, Wilder Church, Wilder School, Community Green Space, Community Action Group and Recording Group ... Together we are all #TeamWilder!

Click here to add yourself now (opens in new tab)

Layers

Show more layers
Show fewer layers

Os ydych chi'n chwilio am fwy o ffyrdd i gymryd rhan mae croeso i chi gysylltu â'n harweinydd Trefnu Cymunedol, Charlotte Spring, a fydd yn hapus i gysylltu â chi a chwilio am ffyrdd y gall YNG eich cefnogi chi a'ch cymuned i greu gofod ar gyfer byd natur ar garreg eich drws neu yn eich ardal.

Cysylltwch â: cspring@gwentwildlife.org neu ar 07747207791

Ymunwch â'r rhwydwaith

 

Cofrestrwch i'n eGylchlythyr

Dewch yn aelod o Ymddiriedolaeth Natur Gwent

 

Ymunwch â miloedd o selogion bywyd gwyllt eraill tebyg i’n helpu ni i gynyddu bioamrywiaeth, amddiffyn natur, ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf a chreu gwarchodfeydd i bawb eu mwynhau!

Ymunwch nawr