New bug splatter app to reveal more about insect populations/Ap ‘sblat’ pryfed newydd yn ein helpu i ddysgu mwy am boblogaethau o bryfed

New bug splatter app to reveal more about insect populations/Ap ‘sblat’ pryfed newydd yn ein helpu i ddysgu mwy am boblogaethau o bryfed

Penny Frith

Drivers and passengers are being asked to count bugs squashed on registration plates after a journey
Gofyn i yrwyr a theithwyr gyfrif y pryfed sydd wedi’u gwasgu ar blatiau cofrestru eu cerbydau ar ôl siwrnai

An innovative app to survey insect populations has been launched by Kent, Gwent, Essex and Somerset Wildlife Trusts with insect charity Buglife. The user-friendly Bugs Matter app brings meaningful citizen science to the pockets of thousands and will help wildlife organisations better understand how our insect populations are faring.

Smartphone users can take part by downloading the free Bugs Matter app from their app stores. The concept is simple; before making a usual or necessary journey in a vehicle, clean the number plate. When you reach your destination count the bugs squashed on the number plate using a ‘splatometer’ grid, which will get posted to you when you download the app. A photo and details are then submitted. You don’t even need to be the driver of the vehicle you are travelling in (though you will need their permission).  

The survey is based on the ‘windscreen phenomenon, a term given to the observation that people tend to find fewer insects squashed on the windscreens of their cars compared to several decades ago.

There is growing evidence of insect decline on a global scale, caused by habitat loss and pesticides. The consequences are potentially catastrophic for the integrity of our ecosystems, the future survival of other wildlife and the pollination of crops.

However, evidence is still lacking or only partly understood for many insect groups and species. Gathering evidence to show the need for urgent action is the first step in making a difference.  In the UK only butterflies and moths have been monitored in enough detail to allow trends to be fully understood.

Dr Paul Tinsley Marshall, Conservation Evidence Manager at Kent Wildlife Trust said: “Finding fewer squashed bugs on car number plates is concerning because it suggests their populations may be in trouble. The new Bugs Matter app has the advantage of being indiscriminate - sampling any and every insect hovering or flying about like aerial plankton. The main causes of their decline are chemical use across our countryside, road verges and gardens, and habitat loss - but we need lots more data to determine trends and people to take the survey during their day to day car travel. This will strengthen our call for a reduction in pesticide use and better, more joined up insect habitats as part of a Nature Recovery Network.”

Urging people in Gwent to get involved in this important Bugs Matter survey, Gwent Wildlife Trust’s Head of Nature Recovery Gemma Bodé said: “With those memories of seeing clouds of insects on a summer evening drive sadly now a thing of the past, this survey will most likely confirm our worst fears - that our insect population is in rapid decline. Insects are so important to us all in many ways, including pollinating our crops. It is therefore vital that as many people as possible across Gwent participate in the Bugs Matter survey.  Please take part and help us to form a picture about the state of our nature in Gwent, and together, we can help it recover.”

Clare Dinham Wales Manager for Buglife Cymru said: “Many of us will be familiar with stories of our parents and grandparents having to clean their windscreens due to the numbers of insects hitting them. Today this is hardly a problem at all, and begs the questions – where have all our insects gone and why are they declining? Join us in helping to find out more about insect declines in Wales by taking part in the Bugs Matter survey. Data you collect will help us to identify and better understand insect declines, and what we can all do to prevent it.”

Download the Bugs Matter app  from your app store today for IOS  or Android and be ready to survey from 1 June to 31 August 2021.

Mae ap arloesol, sydd wedi cael ei greu er mwyn cynnal arolwg o boblogaethau pryfed, wedi cael ei lansio gan Ymddiriedolaethau Natur Caint, Gwent, Essex a Gwlad yr Haf – ynghyd â’r elusen Buglife. Mae ap hwylus Bugs Matter yn ei gwneud hi’n hawdd i’r cyhoedd gymryd rhan mewn ymchwil wyddonol, felly bydd modd i filoedd o bobl helpu sefydliadau bywyd gwyllt i gael gwell dealltwriaeth o hynt a helynt ein pryfed. 

Os oes gennych chi ffôn clyfar, gallwch gymryd rhan drwy lawrlwytho ap Bugs Matter yn rhad ac am ddim o’r siop apiau. Mae’r syniad yn syml; cyn mynd ar siwrnai arferol neu angenrheidiol mewn cerbyd, gwnewch yn siŵr bod y plât rhif yn lân. Ar ôl cyrraedd pen y daith, defnyddiwch grid y ‘sblatomedr’, fydd yn cael ei anfon atoch pan fyddwch yn lawrlwytho’r ap, i gyfrif faint o bryfed sydd arno. Wedyn bydd y llun a’r manylion yn cael eu cyflwyno. Does dim rhaid i chi fod yn gyrru’r cerbyd hyd yn oed (ond bydd angen i chi gael caniatâd y gyrrwr). 

Mae’r arolwg yn seiliedig ar y ‘ffenomenon ffenestri blaen’1 – term sy'n cael ei ddefnyddio i gyfleu’r syniad ein bod ni, y dyddiau yma, yn tueddu i weld llai o bryfed wedi’u gwasgu ar ffenestri blaen ein ceir o gymharu â sut roedd pethau ddegawdau'n ôl.

Mae mwy a mwy o dystiolaeth yn dangos bod niferoedd y pryfed yn gostwng ledled y byd2, yn sgil colli cynefinoedd a defnydd o blaladdwyr. Fe allai canlyniadau hyn fod yn drychinebus i integriti ein hecosystemau ni, gan effeithio ar sut bydd mathau eraill o fywyd gwyllt yn goroesi yn y dyfodol, a’r broses o beillio cnydau.

Ond mae’r dystiolaeth yn brin o hyd, neu ddim ond yn cael ei deall yn rhannol ar gyfer llawer o rywogaethau a grwpiau o bryfed. Y cam cyntaf i wneud gwahaniaeth ydy casglu tystiolaeth i ddangos bod angen gweithredu ar frys.  Yn y DU, dim ond glöynnod a gwyfynod sydd wedi cael eu monitro'n ddigon manwl i allu deall tueddiadau’n llawn.

Dywedodd Dr Paul Tinsley Marshall, Rheolwr Tystiolaeth Cadwraeth Ymddiriedolaeth Natur Caint: “Mae gweld llai o bryfed wedi’u gwasgu yn erbyn platiau rhif ceir yn destun pryder oherwydd mae’n awgrymu y gallai eu poblogaethau fod mewn trafferthion. Un o fanteision ap newydd Bugs Matter ydy ei fod yn samplu unrhyw fath o bryfyn sy'n hedfan neu'n hofran o gwmpas y lle, fel plancton yn yr awyr, heb wahaniaethu. Y prif resymau dros y gostyngiad yn eu niferoedd ydy defnydd o gemegau yng nghefn gwlad, ar ochrau ffyrdd ac mewn gerddi, yn ogystal â cholli cynefinoedd – ond mae angen i ni gael llawer mwy o ddata i bennu tueddiadau, a chael pobl i gymryd rhan yn yr arolwg wrth deithio yn eu ceir o ddydd i ddydd.  Bydd hyn yn cadarnhau ein galwad i ddefnyddio llai o blaladdwyr a sicrhau cynefinoedd gwell a mwy cydgysylltiedig ar gyfer pryfed fel rhan o Rwydwaith Adfer Natur.” 

Gan annog pobl Gwent i gymryd rhan yn arolwg hollbwysig Mae Pryfed yn Bwysig, dywedodd Gemma Bodé, Pennaeth Adfer Natur Ymddiriedolaeth Natur Gwent: “Mae'n drist meddwl bod atgofion am weld cymylau o bryfed wrth fynd am dro yn y car ar nosweithiau o haf yn perthyn i'r oes o'r blaen. Mae'n bur debyg y bydd yr arolwg yma’n cadarnhau ein hofnau mwyaf – bod poblogaeth ein pryfed yn dirywio’n gyflym. Mae pryfed yn bwysig iawn i bawb mewn sawl ffordd, gan eu bod yn gwneud pethau fel peillio ein cnydau. Felly mae’n hanfodol bod cynifer o bobl â phosib ar draws Gwent yn cymryd rhan yn arolwg Mae Pryfed yn Bwysig. Cymerwch ran os gwelwch yn dda, a’n helpu i greu darlun o gyflwr byd natur Gwent. Gyda’n gilydd, fe allwn ni helpu i adfer y sefyllfa.”

 

Dywedodd Clare Dinham, Rheolwr Cymru – Buglife Cymru: “Bydd llawer ohonom ni wedi clywed mam a dad neu nain a taid yn sôn amdanyn nhw’n gorfod glanhau ffenestri blaen eu ceir gan fod ’na gymaint o bryfed yn eu taro nhw.  Heddiw, dydy hynny ddim yn llawer o broblem, felly rhaid gofyn y cwestiwn – ble mae’r holl bryfed wedi mynd a pham bod y niferoedd yn gostwng? Ymunwch â ni i helpu i ddysgu mwy am y gostyngiad yn niferoedd y pryfed yng Nghymru drwy gymryd rhan yn arolwg Mae Pryfed yn Bwysig. Bydd y data y byddwch chi’n eu casglu yn ein helpu ni i sicrhau gwell dealltwriaeth o’r gostyngiadau yn niferoedd y pryfed – a beth allwn ni ei wneud i atal hyn.”

Gallwch lawrlwytho ap Bugs Matter o’r siop apiau heddiw. Wedyn, fe fyddwch yn barod i gymryd rhan yn yr arolwg rhwng 1 Mehefin a 31 Awst 2021.

 

Bugs Matter phone app