Gweithgareddau’r hydref Sefyll Dros Natur Cymru

Gweithgareddau’r hydref Sefyll Dros Natur Cymru

Visit to Elan Valley Reservoirs

Dyma gipolwg ar yr hyn y mae'r Nature Nurturers a’r Wildlife Warriors wedi bod yn ei wneud yr hydref yma.
Meeting owls at Magor Marsh

Meeting owls at Magor Marsh

Ym mis Medi cawsom ymweliad gan ganolfan achub leol ar gyfer adar ysglyfaethus i drafod y peryglon y mae adar ysglyfaethus a thylluanod yn eu hwynebu yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

Bird of prey rescue

Bird of prey rescue

Daeth y ganolfan achub draw gyda rhai adar oedd yn eu gofal dros dro, gan gynnwys tylluan wen, tylluan frech, bwncath a chudyll coch.

Lantern Making

Lantern Making

Ddechrau mis Hydref daeth prosiect Llwybr Arfordir Cymru’r Dyfodol i gadw cwmni i ni, i wneud llusernau drwy ailddefnyddio tuniau a chreu llun ar yr wyneb gan ddefnyddio morthwyl a hoelen. Roedd y llusernau ar gyfer gorymdaith o oleuadau mewn partneriaeth â chwaer brosiect ym Mae Bengal.

Hedgehog Home Construction

Hedgehog Home Construction

Cafodd y Wildlife Warriors hwyl yn creu cartrefi gaeafgysgu i ddraenogod gan ddefnyddio tiwbiau pren a phlastig. Fe wnaethon nhw ddysgu am bwysigrwydd defnyddio'r cynllun cywir a sgiliau celfi llaw gwerthfawr.

Hedgehog Home Construction

Hedgehog Home Construction

Bu dau dîm yn gweithio ar y cartrefi gaeafgysgu a gafodd eu lleoli yng Nghymuned Eveswell a Pharc Coetir yng Nghasnewydd.

Elan Valley Reservoirs

Elan Valley Reservoirs

Yn ystod hanner tymor mis Hydref, buom yn ymweld â chronfeydd dŵr Cwm Elan. Eglurodd Bethan, un o wardeiniaid Dŵr Cymru / Welsh Water, sut oedden nhw’n cymryd camau i ymdopi â’r galw am ddŵr ac effaith newid hinsawdd ar y cyflenwad dŵr.

Elan Valley visit

Elan Valley visit

Roedd y daith yn cynnwys cerdded y tu mewn i argae Pen y Garreg ar ei hyd at y tŵr canolog. Yn y tŵr canolog fe gawsom ni olygfeydd syfrdanol o’r ardal o’n cwmpas ac arddangosfa gan Dŵr Cymru / Welsh Water o sut maent yn mesur lefelau’r dŵr gan ddefnyddio teclyn mesur sain.

Gigrin Farm Red Kite Feeding Centre

Gigrin Farm Red Kite Feeding Centre

Yn dilyn yr ymweliad â’r cronfeydd dŵr, fe aethon ni i Ganolfan Barcutiaid Coch Fferm Gigrin yn barod ar gyfer amser bwydo am 14:00. Mae rhai o aelodau'r grŵp ieuenctid yn hoff iawn o ffotograffiaeth bywyd gwyllt ac roedd yn gyfle iddyn nhw ymarfer eu sgiliau ffotograffiaeth o'r tu mewn i'r guddfan wylio.

Gigrin Farm Red Kite Feeding Centre

Gigrin Farm Red Kite Feeding Centre

Amcangyfrifir bod 300 o farcutiaid coch wedi dod i gael eu siâr o ddarnau o gig a wasgarwyd ar hyd y cae gan staff y ganolfan. Roedd yno hefyd fwncathod, brain, cigfrain, ydfrain a jac doeau yn bresennol i fwynhau’r wledd.

Nest box at Screwfix

Fe gysylltodd Screwfix Glynebwy â ni i ofyn am gymorth pan welson nhw bod sawl titw tomos las yn nythu yn eu bin sigaréts. Roedd aelodau grŵp ieuenctid Nature Nurturers eisiau darparu llety arall felly fe wnaethon nhw greu a gosod bocs nythu i ditwod tomos las o flaen yr adeilad.

Installing nest boxes at Screwfix

Installing nest boxes at Screwfix

Fe wnaethon nhw hefyd greu a gosod bocs nythu i robin goch yng nghefn yr adeilad ger rhai coed a llwyni defnyddiol.

Reptiles and Amphibians talk

Reptiles and Amphibians talk

Daeth Michael Rodgers, cyn aelod o’r Wildlife Warriors sydd bellach yn wirfoddolwr, i Gors Magwyr ym mis Tachwedd i roi sgwrs am ymlusgiaid ac amffibiaid.

Reptiles and Amphibians talk

Reptiles and Amphibians talk

Cafodd aelodau’r grŵp ieuenctid gyfle i ddal brogaod a llyffantod a dysgu sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar ymlusgiaid ac amffibiaid yng Ngwent. Mewn rhai achosion, mae’r tymheredd yn penderfynu ar ryw epil ymlusgiaid wrth ddatblygu yn yr ŵy, sydd eisoes yn achosi problem ddifrifol wrth i'r tymheredd godi.

Ydych chi rhwng 9 a 24 oed ac eisiau achub byd natur i helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd? Ewch i dudalen we Sefyll Dros Natur Cymru i gael rhagor o wybodaeth am sut gallwch chi ymuno ag un o’n grwpiau ieuenctid ni a helpu yn eich cymuned leol.