Schools

School children harvest potatoes from a small raised bed.

Copyright Edd Moore Damers First School

Cyfleoedd i ddysgu

Ymweliadau Addysgol a Dysgu Awyr Agored!

Ewch allan i'r awyr agored

Rydym yn angerddol am gael pobl ifanc i fynd allan i'r awyr agored, cysylltu â'r byd naturiol, a'u hysbrydoli i weithredu’n gadarnhaol dros fyd natur. Gyda degawdau o brofiad o ddarparu dysgu awyr agored o ansawdd uchel, mae ein canolfannau'n cynnig cyfleoedd diogel, deniadol a chofiadwy i bobl ifanc ddarganfod bywyd gwyllt yn uniongyrchol.

P'un a ydych chi'n ysgol, coleg, grŵp addysg gartref, neu sefydliad ieuenctid, rydym yn darparu ystod eang o brofiadau awyr agored wedi'u cynllunio i ennyn chwilfrydedd, magu hyder, a dyfnhau dealltwriaeth o'r amgylchedd.

Pond dipping Magor Marsh

Pond dipping at Magor Marsh by Petra Mitchard

Dewch aton ni

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o ymweliadau diwrnod llawn a hanner diwrnod sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm a lles yng Nghanolfan Derek Upton, Cors Magwyr, neu Ganolfan Adnoddau Amgylcheddol, Glynebwy.

Dysgwch am Ryfeddodau Dŵr, sut mae'r creaduriaid wedi addasu i'w hamgylchedd a sut y gellir eu defnyddio i ddangos iechyd system ddŵr. O'r sgorpionau dŵr rhyfeddol i'r larfau chwilod dŵr sy'n edrych yn frawychus, mae'r pwll yn fyd sy’n llawn syrpreisys a rhyfeddodau.

Mae Marvellous Minibeasts yn gipolwg ar y creaduriaid cudd o dan ein traed, o dan foncyffion ac mewn coed.  Beth yw nodweddion adnabod pryfed? Dysgwch sut i ddefnyddio allwedd i'ch helpu i’w hadnabod. Casglwch ddata trwy gynnal cyfrif o'r creaduriaid rydych chi'n eu canfod. 

Archwiliwch a chymharwch wahanol Gynefinoedd Iach a'r planhigion/creaduriaid sy'n byw ynddynt. Sut maen nhw wedi addasu i fywyd yn y cynefin hwnnw? Edrychwch ar gadwyni bwyd a gweoedd bwyd o fewn cynefinoedd penodol.

Mae prisiau'n dechrau o £4.50 y disgybl ond gall gynyddu yn ddibynnol ar faint dosbarth a hyd yr ymweliad.

Cliciwch yma i anfon ymholiad atom 

Student with butterfly

Student with butterfly by Robert Magee

Gadewch i ni ddod atoch chi

Gall ein staff profiadol arwain gweithdai yn yr ysgol. Byddwn yn archwilio tiroedd eich ysgol, gan ddarganfod a dysgu am y cynefinoedd a'r rhywogaethau sy'n byw yno. Gan weithio gyda'ch myfyrwyr, gallwn drafod sut i wneud eich ysgol hyd yn oed yn fwy cyfeillgar i fywyd gwyllt.

Chwilio am sgwrs yn lle? Rydyn ni hefyd yn cynnig sgyrsiau i ysbrydoli pobl ifanc i helpu bywyd gwyllt a bod yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd yn yr ysgol a gartref.

Cliciwch yma i wneud ymholiad am allgymorth ysgol 

The Lost Words cover image

The Lost Words by Robert Macfarlane and Jackie Morris

Gweithgareddau ac adnoddau am ddim

Fideos, taflenni gwaith a syniadau gweithgareddau i wneud eich ysgol yn hafan i fywyd gwyllt.

Gallwch weld a lawrlwytho ein Hadmoddau Addysgol yma

Image of Gwent Wildlife Trust  Volunteers

Gwent Wildlife Trust  Volunteers

Grwpiau Ieuenctid

A wyddoch chi? 

Rydym hefyd yn rhedeg grwpiau ieuenctid i bobl ifanc rhwng 9 a 24 oed ym Mhont-y-pŵl, Glynebwy a Magwyr. Cynhelir cyfarfodydd ar nos Fawrth rhwng 18:00 a 20:00. 

Cymerwch ran mewn gweithgareddau dan do ac awyr agored sy'n seiliedig ar natur, ymgyrchoedd, sgyrsiau addysgol ac adeiladu sgiliau cynaliadwy.

Yn ystod gwyliau ysgol, mae sesiynau'n cynnwys cyrsiau undydd, gwersylla a theithiau maes.

Dysgwch fwy am ein grwpiau ieuenctid yma

Taflen Ymweliadau Addysgol a Dysgu Awyr Agored