Nature Nurture Survey for NHS Workers

Nature Nurture Survey for NHS Workers

Mae Canolfan Genedlaethol Prifysgol Caerdydd ar gyfer Iechyd Meddwl wedi ymuno ag amgylcheddwyr, Garden Organic ac Ymddiriedolaeth Natur Gwent i geisio deall sut i ddod â gweithwyr y GIG a'u teuluoedd yn agosach at yr amgylchedd naturiol.

Pa mor bwysig yw ymgysylltu â’r amgylchedd naturiol i chi?

Mae Canolfan Genedlaethol Prifysgol Caerdydd ar gyfer Iechyd Meddwl wedi ymuno ag amgylcheddwyr, Garden Organic ac Ymddiriedolaeth Natur Gwent i geisio deall sut i ddod â gweithwyr y GIG a'u teuluoedd yn agosach at yr amgylchedd naturiol.

Dengys tystiolaeth yn glir fod treulio amser yn yr awyr agored a mannau gwyrdd yn fuddiol. Mae hyn wedi dod yn fwy amlwg byth ers dechrau'r pandemig.

Roedd 41% o'r cyfranogwyr yn cytuno bod 'ymweld â mannau gwyrdd a naturiol lleol wedi bod hyd yn oed yn bwysicach i'w lles ers COVID-19
Natural England, 2021
Dywedodd 89% o staff y GIG yr hoffent dreulio mwy o amser mewn mannau gwyrdd ar eu safle gwaith nag y maent yn ei wneud ar hyn o bryd
Canolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy, 202

Y cwestiwn yw sut mae annog pobl – y rhai hynny a allai deimlo nad oes ganddynt y gallu neu’r hyder i dreulio mwy o amser yn yr awyr agored – i achub ar y cyfle i wneud hynny?

 

Mae Nature Nurture yn astudiaeth ymchwil dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, a fydd yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Natur Gwent, amgylcheddwyr a Garden Organic. Nod yr astudiaeth yw archwilio sut y gall elusennau a'r rhai sy'n rhoi cyfleoedd i dreulio amser yn yr awyr agored ymgysylltu'n fwy eang â gweithwyr y GIG a'u teuluoedd. Bydd yr astudiaeth yn ceisio deall sut mae barn a gweithgareddau pobl wedi newid ers y pandemig, gan gynnwys beth a allai gryfhau cysylltiad ac ymgysylltiad â’r awyr agored.

Os oes gennych ddiddordeb, clicio’r ddolen neu chwilio amdanom ar y cyfryngau cymdeithasol (@NatureNurtureCU) a chymryd rhan mewn arolwg byr (sy’n cymryd llai na 10 munud) i rannu eich barn a'ch profiadau.

https://cardiff.onlinesurveys.ac.uk/naturenurture