Gwaith Celf Abigail

Gwaith Celf Abigail

Nature Reserve by Abigail

Lansiwyd prosiect Sefyll Dros Natur Cymru yn 2021, gyda’r bwriad o rymuso pobl ifanc rhwng 9 a 24 oed i gymryd camau cadarnhaol yn eu cymuned i warchod bywyd gwyllt a brwydro yn erbyn effaith newid yn yr hinsawdd. Nawr, dair blynedd ers y dechrau, mae dau o aelodau hirsefydlog ein grŵp ieuenctid ni yng Ngwent yn adlewyrchu ar eu profiadau gyda'r prosiect a sut mae wedi rhoi hyder iddyn nhw gymryd camau cadarnhaol yn eu bywydau eu hunain.

Helo, fy enw i yw Abigail ac ar hyn o bryd ym mlwyddyn gyntaf fy nghwrs Safon Uwch yn astudio Celf, Daearyddiaeth a Ffotograffiaeth.

O oedran ifanc iawn rydw i bob amser wedi bod â diddordeb mewn bywyd gwyllt ac angerdd cryf iawn dros wneud fy ngorau glas i’w warchod ac i geisio addysgu pobl am bwysigrwydd aruthrol bywyd gwyllt a byd natur. Rydw i bob amser wedi cael fy nysgu i barchu, hoffi a mwynhau'r amgylchedd rydw i’n byw ynddo. Fe greodd fy nheulu a minnau ardd sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt a thrwy wneud hynny rydyn ni bellach yn croesawu llu o rywogaethau gwahanol. O ddraenogod, i lyffantod, adar, gwyfynod a glöynnod byw. Rydw i bob amser yn teimlo mor hapus i weld beth mae pob tymor yn ei ddenu i'r ardd. Rydw i wrth fy modd yn gweld y gwahanol adar yn ymweld ac rydyn ni’n ddigon ffodus i fod â phoblogaeth enfawr o adar y to sy’n nythu’n hapus bob blwyddyn ym mondo’r to. Mae bob amser yn hynod ddiddorol gwrando ar eu clebran nhw a meddwl tybed am beth maen nhw'n ffraeo. Rydyn ni wedi gosod bocs i wenoliaid duon yn ei le yn ddiweddar ac rydw i’n gobeithio y byddwn ni’n ddigon breintiedig i gael pâr yn dewis nythu ar fy nhŷ i. Dydw i ddim yn dewis beth sy'n dod i mewn i'r ardd, rydw i'n hapus i groesawu pawb, gan fy mod i’n gweld bod byd natur bob amser yn creu ei gydbwysedd ei hun.

Yn 2021 fe wnes i fynychu digwyddiad bywyd gwyllt ym Mharc Bryn Bach ac fe wnes i ymuno â phrosiect Sefyll Dros Natur Cymru gydag Ymddiriedolaeth Natur Gwent. Roeddwn i’n nerfus am fynychu i ddechrau gan nad oeddwn i’n gwybod am unrhyw un oedd yn mynd na beth i'w ddisgwyl. Fe wnes i ymlacio yn fuan iawn gan fy mod i’n gallu gweld y byddai hwn yn brosiect y byddwn i’n ei fwynhau'n llwyr ac y byddai'n rhoi cyfle i mi gwrdd â phobl ifanc tebyg i mi. Rydw i mor falch o allu bod yn rhan o’r prosiect yma gan fy mod i’n teimlo ei fod wedi bod o fudd i mi mewn sawl ffordd ac rydw i wedi cael llawer o wybodaeth am fywyd gwyllt yn fy ardal i ac wedi gallu mynd i lawer o wahanol ddigwyddiadau. Rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd sydd hefyd yn poeni am yr amgylchedd. Mae'n dda bod yn rhan o brosiect sy'n mynd i'r afael â'r frwydr y mae byd natur yn ei dioddef, a gwybod bod yna bobl ifanc allan yna sy'n poeni cymaint â fi. Mae'n rhoi gobaith i mi, os byddwn ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd, fe allwn ni wneud cynnydd o ran creu amgylchedd diogelach i fywyd gwyllt.

Drwy fod yn rhan o Sefyll Dros Natur Cymru rydw i wedi dysgu sgiliau newydd fel canfod ystlumod, adnabod pryfed a phlanhigion, sut i greu cynefin sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt ac rydw i hefyd wedi gallu gwrando ar sgyrsiau am wahanol rywogaethau fel draenogod, ymlusgiaid ac amffibiaid. Rydw i wedi ysgrifennu at gynghorau lleol am faterion sy’n bwysig iawn i mi, fel Mai Di Dor a lleihau’r defnydd o blaladdwyr. Rydw i wedi bod yn y Senedd yng Nghaerdydd i ymgyrchu yn erbyn y defnydd o blaladdwyr ac fe wnes i lwyddo i leisio fy mhryderon i Aelodau’r Senedd. Roedd yn teimlo fel pe bawn i'n gwneud rhywbeth cynhyrchiol i helpu byd natur, mae hyd yn oed oedolion angen cael eu haddysgu am sut gallwn ni i gyd helpu byd natur.

Rydw i hefyd wedi mynychu dwy Uwchgynhadledd Hinsawdd i Ieuenctid gyda Sefyll Dros Natur Cymru a mwynhau yn fawr iawn. Drwy fynd i’r digwyddiadau yma rydw i wedi darganfod yr hoffwn i gael gyrfa mewn Cadwraeth ac rydw i wedi cael gwybodaeth am yr hyn y byddai angen i mi ei wneud yn y dyfodol.

Rydw i wedi gallu rhannu fy hoffter i o fywyd gwyllt, byd natur a’r amgylchedd drwy fy ngwaith celf. Ymunais â Chymdeithas Gelf 2 flynedd yn ôl ac rydw i wedi arddangos fy ngwaith celf yn adeilad y Pier Head yng Nghaerdydd, yn ogystal â fy amgueddfa leol. Rydw i wedi bod wrth fy modd yn creu portread o un o fy arwyr natur i, Iolo Williams, ac roeddwn i’n ddigon ffodus i’w gyfarfod e yn ddiweddar. Fy hoff baentiad i yw un o'r ardal lle rydw i wedi bod ar fy ngwyliau am y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae’r lle yma’n bwysig iawn i mi gan fod y perchnogion wedi dod i reoli tir fferm a bellach wedi ei ailwylltio i fod yn warchodfa natur hardd a thawel. Rydw i bob amser yn cael fy syfrdanu gan harddwch pur y lle a sut mae byd natur bob amser yn adfer, er gwaetha’r hyn sydd wedi digwydd o'r blaen.

Rydw i hefyd yn ymwneud â gwirfoddoli gyda dwy elusen sy'n ailgartrefu ieir oedd yn arfer bod yn ieir masnachol ac fel rhan o’r gwaith yma rydw i'n achub ac yn ailgartrefu nifer enfawr o ieir ac yn rhoi cyfle iddyn nhw fyw'r bywydau maen nhw i gyd yn eu haeddu.