RGG Survey

GWT-RGG-NRN-Survey-Header-CY

Dywedwch wrthym beth yw eich barn am fywyd gwyllt lleol am gyfle i ennill un o bum taleb gwerth £50 nhbs.com

Ewch â fi i'r arolwg!

 

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gwent yn gweithio gyda phartneriaeth Gwent Gydnerth i helpu mwy o bobl i gysylltu â natur a'i gwerthfawrogi Bydd yr arolwg yma yn ein helpu i ddeall eich barn am fyd natur lleol yn well.

Mae prosiect Gwent Gydnerth yn cael ei ariannu gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen yn weithredol tan haf 2022, ac mae’n dangos dull gweithredu ar draws y dirwedd a chysylltedd ar draws De Ddwyrain Cymru; creu a gwella rhwydweithiau ecolegol gwydn, gan ddarparu adnoddau naturiol a reolir yn gynaliadwy ac egwyddorion i gymunedau werthfawrogi eu tirweddau a’u bywyd gwyllt.

Arweinir ffrwd waith Cymunedau Cynaliadwy gan Swyddog Newid Ymddygiad er Lles Cyngor Sir Fynwy. Bydd yn defnyddio dull cymunedol a seiliedig ar le o weithredu, gan ymgysylltu â chymunedau a cheisio ychwanegu gwerth. Bydd pobl yn fwyfwy cysylltiedig â natur a ffyrdd cynaliadwy o fyw ac yn eu gwerthfawrogi. Bydd hyn yn cefnogi eu lles corfforol a meddyliol.

RGG and WG logos